Mae 29 o bobol wedi marw a 28 wedi’u hanafu yn dilyn damwain fws yn Ynys Madeira.

Roedd 55 o bobol ar fwrdd y cerbyd, ac ymhlith y meirw mae 18 o fenywod ac 11 dyn.

Roedd y bws yn cynnal teithiau i dwristiaid, ac roedd ymwelwyr o’r Almaen ynddo pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger dinas Funchal.

Mae adroddiadau’n awgrymu mai Almaenwyr oedd pob un o’r rheiny a fu farw.

Gwyrodd y cerbyd oddi ar heol cyn disgyn i lawr bryn serth, ac mae’n debyg ei fod wedi gwrthdaro ag o leiaf un tŷ.

Does dim plant ymhlith y meirw, yn ôl adroddiadau.

Rhan o Bortiwgal yw Ynys Madeira, ac mae 1.4 miliwn o dwristiaid yn ymweld â hi bob blwyddyn.