Fe fydd tri diwrnod o bleidleisio yn dechrau yn yr Aifft ddydd Sadwrn (Ebrill 20) mewn refferendwm ar y newidiadau sydd ar y gweill i gyfansoddiad y wlad.

Fe fyddai’r newid mwyaf yn caniatau i’r arlywydd Abdel-Fattah el-Sissi allu aros yn ei swydd hyd 2030.

Fe fydd gan bleidleiswyr yr hawl i fwrw croes unrhyw bryd rhwng dydd Sadwrn a dydd Llun, tra bydd Eifftwyr sy’n byw dramor hefyd yn cael fotio, rhwng fory (dydd Gwener, Ebrill 19) a dydd Sul.

Mae pobol yr Aifft yn cael eu hannog i droi allan yn eu miliynau i bleidleisio, er mwyn gadael i’r bobol mewn grym wybod yn union sut y maen nhw’n teimlo am y newidiadau arfaethedig.

Mae’r rheiny sy’n gwrthwynebu’r newidiadau yn eu gweld fel cam yn ôl i drefn lai democrataidd.