Mae cwmni awyrennau mwyaf India – Jet Airways – wedi rhoi’r gorau i bob gwasanaeth, wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod yn methu fforddio eu rhedeg.

Mae’r cwmni yn cadarnhau eu bod wedi cael cyfarwyddyd gan eu benthycwyr, y State Bank of India, na allan nhw wneud cais am fwy o arian er mwyn cadw eu hawyrennau yn yr awyr.

Mae cyn-gadeirydd y cwmni, Naresh Goyal, wedi tynnu’n ôl o fuddsoddi yn Jet Airways yr wythnos hon. Etihad Aviation Group sydd â 24% o gyfranddaliadau’r cwmni ers 2013.

Roedd gan y cwmni 119 o awyrennau ddiwedd y llynedd, pan gyhoeddodd am y tro cynta’ ei fod mewn dyledion. Yr wythnos hon, dim ond saith o awyrennau sydd wedi bod yn hedfan, a hynny ar deithiau domestig.