Fe saethodd cyn-arlywydd Periw, Alan Garcia, ei hun ychydig cyn i’r heddlu ei ddal, dywed ei gyfreithiwr.

Cafodd Alan Garcia ei arestio yn dilyn cyhuddiadau yn ei erbyn ei fod wedi derbyn tal anghyfreithlon gan gwmni adeiladu o Odebrecht yn Brasil.

Mae ei gyfreithiwr, Erasmo Reyna, wedi cadarnhau’r digwyddiad, ac mae gorchymyn llys yn profi bod gorchymyn i arestio Alan Garcia wedi cael ei wneud.

Mae’r cwmni adeiladu Odebrecht yng nghanol sgandal llygredd mwyaf America Ladin ar hyn o bryd.

Fe gyfaddefodd y cwmni mewn bargen gydag Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau yn 2016 ei fod wedi talu bron i £613m i swyddogion amheus ar draws America Ladin am gontractau adeiladu mawr.