Mae dwy chwaer sydd wedi ffoi o Sawdi Arabia yn galw am help gan Georgia.

Drwy ddefnyddio cyfrif Twitter, mae Maha al-Subaie, 28, a Wafa al-Subaie, yn galw ei hunain yn “GeorgiaSisters” ac yn pledio am ddiogelwch mewn fideo.

Maen nhw’n datgan eu bod “yn ceisio diogelwch… Rydyn ni eisiau gwlad sydd yn ein croesawu ac sy’n amddiffyn ein hawliau.”

Yn ôl y chwiorydd, fe fydden nhw’n cael eu lladd os ydynt yn dychwelyd i Sawdi Arabia. Mae eu tad a’u brodyr wedi cyrraedd Georgia ac yn chwilio amdanyn nhw.

Dyma’r achos diweddaraf o bobol yn ffoi o Sawdi Arabia gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i apelio am loches.

Ym mis Ionawr, cafodd menyw 18 oed o Sawdi Arabia loches yng Nghanada ar ôl defnyddio Twitter i ennill sylw byd-eang o ystafell mewn gwesty yn Bangkok.