Mae Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc, yn dweud y gallai gymryd hyd at bum mlynedd i ail-godi cadeirlan Notre Dame yn Paris.

Fe ddaeth y sylw wrth iddo annerch y genedl neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 16), ddiwrnod wedi’r tân sy’n cael ei ystyried yn un damweiniol.

Dywed y bydd Ffrainc yn “ail-godi Cadeirlan Notre Dame hyd yn oed yn fwy hardd”, gan ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith a’u harian.

Fe fu bron i 400 o ddiffoddwyr tân yn ceisio diffodd y fflamau, a chafodd dau blismon a dyn tân eu hanafu yn y digwyddiad.

“Mae tân Notre Dame yn ein hatgoffa nad yw hanes byth yn stopio,” meddai ar Twitter, yn dilyn pryderon y gallai’r adeilad fod wedi cael ei ddinistrio’n llwyr.

Mae mwy na 600 miliwn Ewro wedi cael eu rhoi at yr achos hyd yn hyn, ac mae’r gwaith o symud henebion o’r adeilad i amgueddfa’r Louvre ar y gweill.