Bu raid i bobol ffoi o adeilad llysgenhadaeth Awstralia ym Madrid heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 16) ar ôl i fygythiad bom gael ei godi yn y swyddfa 57 llawr.

Derbyniodd staff yn y llysgenhadaeth alwad ffôn yn dweud bod bom yno o gwmpas hanner dydd, yn ôl llefarydd i’r Heddlu Cenedlaethol.

Dywed fod yr heddlu yn ymchwilio i’r galwad ar ôl darganfod mai un ffug oedd hi.

Roedd yr adeilad wedi cael ei wagio erbyn i’r heddlu a’r gwasanaethau achub gyrraedd yno.

Mae tŵr y Torre Espacio yn un o bedwar o dyrrau tal yn ardal ogleddol y brifddinas. Ar wahân i swyddfa Awstralia, mae hi’n dal llysgenhadaeth gwledydd Prydain, Canada a’r Iseldiroedd.