Mae ci wedi cael ei achub ar ôl nofio mwy na 135 milltir oddi ar arfordir Gwlad Thai.
Cafodd yr anifail ei ddarganfod ar ôl i weithwyr ar rig olew ei weld yn nofio tuag at blatfform.
Fe aethon nhw ati wedyn i’w achub drwy osod rhaff o gwmpas ei wddf a’i dynnu i fyny.
Y gred yw bod y ci wedi syrthio oddi ar gwch pysgota, ac yn fuan wedi iddo gyrraedd diogelwch fe gafodd ei lysenwi’n ‘Boon Rod’, sy’n golygu ‘goroeswr’, gan y gweithwyr.
Mae’r ci bellach wedi dychwelyd i’r lan ar ôl cael ei gludo i borthladd Songkhla yn ne Gwlad Thai.
Mae archwiliad gan filfeddygon wedi cadarnhau ei fod mewn cyflwr iach, ac fe fydd yn cael ei drosglwyddo i ofal y grŵp Watchdog Thailand.