Mae llys yn Mosgow wedi dyfarnu dyn o Norwy yn euog o ysbïo, ac wedi ei ddedfrydu i dreulio 14 mlynedd yng ngharchar.

Fe gafodd Frode Berg, swyddog ffiniau wedi ymddeol, ei arestio yn Mosgow ym mis Rhagfyr 2017. Roedd yn cael ei amau o gasglu gwybodaeth am longau tanfor niwclear Rwsia er mwyn ei throsglwyddo i wasanaeth cudd Norwy.

Mae wedi gwadu’r cyhuddiadau o’r dechrau, ac mae ei gyfreithiwr yn dweud fod yr achos cyfan wedi’i seilio ar dystiolaeth amheus.

Am flynyddoedd, roedd y gŵr 63 oed wedi bod yn ffigwr adnabyddus yn ardal y ffin rhwng Rwsia a Norwy, gan gymryd rhan amlwg a bywiog mewn prosiectau diwylliannol a dyngarol rhwng y ddwy wlad.