Does gan yr Undeb Ewropeaidd “ddim byd i’w ennill” o’r anawsterau a ddaw yn sgil Brexit heb gytundeb  wledydd Prydain, meddai Llywydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker.

Mae’n dweud fod yr Undeb Ewropeaidd wedi mabwysiadu “mesurau wrth-gefn angenrheidiol”, ond mai dim ond y rhai sydd yn tanseilio’r gorchymyn cyfreithiol byd-eang ar Brexit fyddai’n elwa o gytundeb o’r fath.

Gwnaeth Jean-Claude Juncker y sylwadau hyn wrth iddo annerch Senedd Ewrop yn Strasbwrg yn uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd wythnos diwethaf lle cynigwyd estyniad chwe mis i gytundeb Theresa May.

Mae’r estyniad tan Hydref 31 yn golygu bydd gwledydd Prydain yn cynnal etholiadau Ewropeaidd fis nesaf.

Awgrymodd hefyd gall Brexit gael ei ohirio ymhellach, neu hyd yn oed ei wrthdroi, wrth iddo nodi fe all Aelodau Senedd Ewrop gwledydd Prydain fod yn aelodau am fisoedd.