Cyn-Lywodraethwr Massachusetts yw’r Gweriniaethwr cyntaf i gyhoeddi ei fod am herio Donald Trump am yr arlywyddiaeth yn 2020.

Wrth gyhoeddi ei enwebiad ar gyfer yr etholiad arlywyddol, dywedodd William Weld, 73, ei bod hi’n “hen bryd dychwelyd at werthoedd Lincoln – cydraddoldeb, urddas a chyfleoedd i bawb”.

“Does yna ddim gwell achos ar y ddaear hon nag i amddiffyn yr hyn sy’n gwneud America yn grêt,” meddai. “Dw i’n barod i arwain y frwydr honno.”

Mae William Weld, a oedd yn Llywodraethwr Massachusetts rhwng 1991 a 1997, hefyd wedi cyhuddo Donald Trump o “hyrwyddo ei hun yn hytrach na hyrwyddo’r wlad”.

Donald Trump yw’r Arlywydd cyntaf i wynebu her gan rywun o fewn i’w blaid ei hun yn y camau cychwynnol o’r etholiad ers 1992.

Er bod polau piniwn yn dangos ei fod yn lled amhoblogaidd gyda phleidleiswyr yr Unol Daleithiau, mae’n parhau’n boblogaidd gyda Gweriniaethwyr.

Ym mis Ionawr hefyd, fe gyhoeddodd Pwyllgor Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol gynnig o gefnogaeth i’r Arlywydd, er nad yw’r cynnig hwnnw’n un gorfodol.