Mae o leiaf dri o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i awyren fach daro i mewn i hofrennydd ar y ddaear ger mynydd Everest.

Cafodd pedwar o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Fe ddigwyddodd wrth i’r awyren geisio gadael y ddaear yn Lukla am Kathmandu yn Nepal.

Llithrodd yr awyren oddi ar y llain lanio cyn taro’r hofrennydd, a’r ddau yn cludo twristiaid yn yr ardal.

Cafodd y rhai a gafodd eu hanafu eu cludo i’r ysbyty.

Ymhlith y rhai fu farw mae peilot yr awyren a dau blismon.

Mae’r maes awyr yn cael ei ystyried yn un o’r rhai mwyaf peryglus yn y byd oherwydd ei llain lanio fer.

Dyma’r trydydd digwyddiad difrifol yno dros y ddwy flynedd ddiwethaf.