Mae saith o swyddogion diogelwch wedi cael eu lladd gan y Taliban wrth deithio gyda’i gilydd yng ngorllewin Afghanistan.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad brynhawn ddoe (dydd Gwener, Ebrill 12) yn dilyn achos o saethu a barodd rai oriau yn nhalaith Ghor.

Roedd Faqir Ahmad Noori, pennaeth gweithrediadau’r heddlu rhanbarthol, ymhlith y rhai a gafodd eu lladd.

Fe fu ymosodiadau bron yn ddyddiol ar swyddogion diogelwch, er bod trafodaethau ar y gweill â’r Cenhedloedd Unedig er mwyn ceisio datrys rhyfel sydd wedi para 17 o flynyddoedd.

Cafodd nifer o blismyn eu hanafu yn y digwyddiad, a nifer o ymladdwyr y Taliban wedi cael eu lladd.