Mae Ecwsdor wedi atgoffa syflaenydd WikiLeaks, Julian Assange, nad yw’n gallu “cuddio” yn llysgenhadaeth y wlad yn Llundain “am byth”.

Dywed gweinidog tramor Ecwador, Jose Valencia, na fyddai aros ymo’n barhaol o les i gyflwr ei feddwl na’i iechyd.

Mae Heddlu’r Met wedi dweud y bydd yn rhaid i swyddogion arestio Julian Assange o dan warant weithredol pe bai’n gadael adeilad y llysgenhadaeth.

Mae Julian Assange yn ofni’r posibilrwydd o gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau am gyhoeddi miloedd o ddogfennau milwrol drwy WikiLeaks.

Mae’n byw yn llysgenhadaeth Ecwador ers dros chwe blynedd ac mae ei berthynas â’i wlad ar chwâl.