Ni fydd y Democratiaid “byth” yn gweld ffurflenni treth arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, meddai pennaeth staff y Tŷ Gwyn, Nick Mulvaney.

Cyhuddodd yr wrthblaid o wneud “stỳnt wleidyddol” ac o fod “eisiau sylw” ar ôl i Richard Neal o’r Democratiaid alw ar y Gwasanaeth Refeniw Mewnol (IRS) ddarparu chwe blynedd o ffurflenni treth bersonol Donald Trump.

“Nid yw hyn am ddigwydd ac maen nhw’n gwybod hynny,” meddai Nick Mulvaney.

Wythnos diwethaf gofynnodd Richard Neal – un o dri swyddog cyngresol sydd ag awdurdod i ofyn am ffurflenni treth, am ffurflenni Donald Trump mewn llythyr at  Gomisiynydd yr IRS, Charles Retting.

Mae deddf yn dyddio nol i 1924 yn nodi nad oes unrhyw eithriadau i awdurdod Richard Neal i ofyn i Adran y Trysorlys am ffurflenni treth a dylai’r adran gyflwyno’r rhain yn dilyn cais.