Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdaro rhwng gangiau yn Copenhagen, prifddinas Denmarc.
Cafodd o leiaf bedwar o bobol eu hanafu yn y digwyddiad, meddai’r awdurdodau.
Mae 14 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyrchoedd mewn sawl ardal ar ôl i’r dyn gael ei saethu’n farw.
Dynion 20 i 27 oed oedd y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn gwrthdaro.
Mae ymchwiliad ar y gweill.