Mae fferi wedi taro i mewn i bont ar afon yn yr Amazon, gan ddymchwel heol uwchben afon Moju.

Yn ôl adroddiadau, plymiodd o leiaf ddau gar i mewn i’r afon ar gyrion dinas Belem ym Mrasil.

Dydy hi ddim yn glir faint o bobol oedd yn y ceir, ac mae timau achub yn chwilio am bobol.

Daeth archwiliad ym mis Ionawr i’r casgliad fod pileri’r bont yn dechrau cyrydu ond doedd y llywodraeth ddim yn credu ar y pryd fod achos i boeni.

Serch hynny, fe wnaethon nhw gais am arian brys.

Mae pontydd ger yr Amazon yn cysylltu nifer o ddinasoedd a phrifddinas y rhanbarth.

Gallai trwsio’r pontydd gostio hyd at 25 miliwn o ddoleri (£19m), ac fe allai’r gwaith gymryd hyd at flwyddyn.

Bydd rhybuddion yn cael eu gosod ar bontydd eraill.