Mae cannoedd o ffoaduriaid sy’n cynnal protest ar wersyll sy’n orlawn yng Ngroeg yn parhau i wrthdaro â’r heddlu.

Fe fu’r ffoaduriaid yn taflu cerrig at y plismyn, oedd wedi ymateb drwy chwistrellu nwy ddagrau.

Mae plant ymhlith y rhai sydd wedi cael eu hanafu gan y nwy ger safle gwersyll Diavata yn agos i Thessaloniki yng ngogledd y wlad.

Fe fu’r ffoaduriaid yn cynnau tanau er mwyn cadw’n gynnes.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod y ffoaduriaid yn credu y gallan nhw gael mynediad i Ewrop ar hyd ffordd sydd wedi’i hagor, ond maen nhw’n dweud bod hynny, ynghyd ag adroddiadau bod bws yn aros i’w cludo oddi yno, yn newyddion ffug.