Mae’r Taliban wedi lladd plismyn a phobol gyffredin mewn cyfres o ymosodiadau ar hyd a lled Afghanistan.

Mae o leiaf saith o blismyn wedi’u lladd a thri o bobol gyffredin.

Mae ymosodiadau o’r fath yn digwydd bron yn ddyddiol ar hyn o bryd.

Cafodd o leiaf bedwar o blismyn eu lladd, a phump o bobol eu hanafu, ger safle diogelwch yn nhalaith Sari Pul.

Mewn ymosodiad arall yn nhalaith Ghazni, cafodd tri o blismyn eu lladd a saith o bobol eraill eu hanafu.

Mae’r Taliban eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am un o’r ymosodiadau.

Mewn digwyddiad arall, cafodd o leiaf dri o bobol gyffredin eu lladd gan fom yn nhalaith Nangarhar.

Mae 19 o bobol hefyd wedi cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad yn Jalalabad, ac mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae’r Taliban hefyd wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad yn nhalaith Badghis, lle cafodd o leiaf 20 o filwyr a phlismyn eu lladd ganol yr wythnos ddiwethaf.