Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud bod “y wlad yn llawn” wrth iddo barhau i wthio agenda gwrth-ffoaduriaid.

Fe fu’n ymweld â dinas Calexico yng Nghaliffornia ddoe (dydd Gwener, Ebrill 5) er mwyn trafod y sefyllfa gydag asiantiaid mewnfudo.

Mae’n dweud bod mewnfudo wedi gorlwytho’r wlad.

Mae Califfornia ac 19 o daleithiau eraill yn dwyn achos yn erbyn yr Arlywydd yn sgil ei safbwyntiau, ac maen nhw’n ceisio gorchymyn llys er mwyn atal arian rhag cael ei neilltuo ar gyfer prosiect gwrth-fewnfudo, sy’n cynnwys codi wal ar y ffin â Mecsico.

Ond mae’n parhau i fynnu bod angen cymryd camau i ddatrys y sefyllfa.

“Yn wir, mae yna argyfwng ar ein ffin yn y de,” meddai yn ystod cyfarfod, lle dywedodd y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o fewnfudo.

“Allwn ni ddim eich cymryd chi rhagor.

“Mae ein gwlad yn llawn.”

Y wal

Er nad yw’r gwaith o godi’r wal wedi dechrau, mae Donald Trump yn mynnu y bydd o leiaf 400 milltir o wal yn cael ei chodi ar y ffin dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n beio’r Democratiaid am y diffyg cynnydd hyd yn hyn, wrth iddyn nhw barhau i wrthwynebu’r cynllun.

Mae’n gwadu adroddiadau ei fod e wedi gwneud tro pedol ar gau’r ffin â Mecsico.