Fe allai rhwydwaith o gronfeydd ar draws y moroedd mawr gael cyflwyno i ddiogelu bywyd gwyllt ac arbed rhywogaethau rhag diflannu, meddai adroddiad.

Mae astudiaeth gan brifysgolion Rhydychen ac Efrog ar y cyd gyda Greenpeace yn dangos sut y gellid gwarchod o leiaf 30% o foroedd rhyngwladol – targed mae gwyddonwyr yn dweud sydd ei angen er mwyn cadwraeth bywyd gwyllt ac i daclo newid hinsawdd.

Yn ol yr astudiaeth mae dyfodol moroedd y byd a’i chreaduriaid yn y fantol oherwydd pysgota, mwyngloddio ar lawr y môr, newid hinsawdd, plastig a llygredd o fathau eraill.

Fe all trafodaethau yn y Cenhedloedd Unedig tuag at gytundeb cefnfor byd-eang newydd agor y llifddorau at ddiogelu ystod eang o foroedd tu allan i ffiniau cenedlaethol, sy’n gyfanswm o 230 miliwn cilomedr sgwâr, meddai’r astudiaeth.

Mae’r cynllun yn rhannu’r moroedd mawr i rannau 100 cilomedr gan nodi cynefinoedd siarcod, morfilod, fynyddoedd tanddwr a fentiau hydrothermol sy’n cynnal bywyd natur unigryw.