Mae maes awyr yn yr Eidal wedi gorfod cau am gyfnod heddiw (dydd Llun, Ebrill 1) ar ôl i drôn gael ei weld ger y safle, gan orfodi pedair awyren i ddargyfeirio eu teithiau i feysydd awyr eraill.

Yn ôl gweithredwr maes awyr Malpensa yn Milan, bu’r lle ar gau am tua hanner awr ar ôl i’r drôn gael ei weld am hanner dydd.

Bu’n rhaid i dair awyren a oedd i fod i lanio yn Malpensa lanio ym maes awyr Linate yn lle,  tra bo un arall wedi gorfod glanio ym maes awyr Turin.

Bu digwyddiad tebyg yn y maes awyr tua mis yn ôl pan gafodd drôn arall ei weld o’r tŵr rheoli.

Mae meysydd awyr yn Llundain wedi cael trafferthion o’r fath yn ystod y misoedd diwethaf hefyd.