Mae streic 24-awr gan weithwyr sifil gwlad Groeg wedi dod â sector gyhoeddus y wlad i stop heddiw, wrth i weithwyr brotestio yn erbyn rhagor o fesurau llym  y Llywodraeth i arbed arian.

Daw’r streic wrth i Lywodraeth y wlad gynllunio rhagor o doriadau yn y gwasanaeth sifil, fel rhan o’u cynllun i osgoi gorfod methu a talu eu dyledion.

Ymunodd rheolwyr traffig awyr â’r gweithredu diwydiannol, gan olygu nad oedd yr un awyren yn gallu hedfan i mewn nac allan o feysydd awyr Groeg.

Roedd ysbytai’r wladwriaeth yn dal i gynnal gwasanaeth,  tra bod cyfreithwyr, athrawon, a swyddogion treth i gyd wedi ymuno â’r streic.

Daeth streic gan y gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus â’r system i stop fore a nos, ac erbyn hyn mae gwrthdystiadau ar strydoedd Groeg wedi eu trefnu.

Mae’r gweision sifil yn protestio dros gynlluniau i ddiswyddo tua 30,000 o staff ar dâl rhannol, fel rhan o gynllun toridadau sydd eisoes wedi golygu toriadau cyflog a phensiynau.

Mae gwlad Groeg yn dibynnu ar becyn cymorth rhyngwladol gwerth €110 biliwn er mwyn osgoi methdalu, ac mae llywodraeth y wlad wedi cael ei beirniadu yn ddiweddar am fethu â chymryd camau digonol i arbed arian eu hunain.