Fe fydd Silvio Berlusconi yn mynd am sedd yn Senedd Ewrop yn yr etholiadau ym mis Mai.

Mae cyn-brif weinidog 82 oed yr Eidal yn galw am Undeb Ewropeaidd mwy unedig.

Fe fu’n siarad yng nghyfarfod Forza Italia, ei blaid sydd wedi colli cefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’n dweud ei fod e am i Ewrop ddychwelyd i “brosiect y sylfaenwyr oedd am gael Ewrop lawer mwy unedig, Ewrop ag un polisi tramor yn unig, ac un polisi amddiffyn”.