Fe fydd goleuadau’n cael eu diffodd ar draws y byd heno (nos Sadwrn, Mawrth 30) i nodi’r Awr Ddaear – a bydd Castell Caerdydd ymhlith y lleoliadau fydd yn cymryd rhan.

Ymhlith yr adeiladau eraill fydd yn cael eu tywyllu mae Palas Buckingham a Chastell Caeredin, yn ogystal â nifer o leoliadau enwog ar draws y byd – o Dŵr Eiffel Paris i byramidiau’r Aifft, adeilad Empire State Building Efrog Newydd a Thŷ Opera Sydney.

Mae’n rhan o ymgyrch WWF i dynnu sylw at ymdrechion i achub y blaned – o newid hinsawdd i lygredd a’r defnydd o blastig.

Mae disgwyl i fwy na 7,000 o ddinasoedd mewn 170 o wledydd gymryd rhan.

Mae WWF wedi cyhoeddi cyngor ar sut i helpu’r blaned drwy ddilyn camau tebyg i’r Awr Ddaear o ddydd i ddydd.