Mae protestwyr festiau melyn ar strydoedd Paris unwaith eto wrth i’w protestiadau yn erbyn Llywodraeth Ffrainc barhau.

Mae’r protestiadau wedi para 20 wythnos erbyn hyn, wrth iddyn nhw barhau i roi pwysau ar yr Arlywydd Emmanuel Macron ynghylch ei bolisïau economaidd.

Maen nhw hefyd yn datgan eu cefnogaeth i Genevieve Legay, ymgyrchydd 73 oed a gafodd anafiadau i’w phen yn ystod protest yn Nice yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei gwthio i’r llawr gan blismon, meddai’r prif erlynydd.

Colli cefnogaeth?

Mae’n ymddangos bod y protestwyr wedi dechrau colli cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf.

Ar y dechrau, roedd cannoedd o filoedd yn ymuno â gorymdeithiau ar hyd a lled y wlad.

Fe ddechreuodd y cyfan fel protest yn erbyn cynyddu’r dreth ar danwydd, ond fe aeth yn brotest ehangach yn erbyn y llywodraeth.

Mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi cyfres o fesurau newydd fis nesaf er mwyn ceisio tawelu ofnau’r protestwyr.