Mae pedwar o blant wedi’u lladd mewn ffrwydrad ar safle ysgol yn nhalaith Ghazni yn Afghanistan.
Cafodd 17 o bobol, 15 o fyfyrwyr a dau o athrawon, eu hanafu pan darodd ffrwydron – roced, o bosib – yr ysgol yn Andar.
Roedd y rhai a fu farw rhwng 10 ac 16 oed.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod pwy oedd wedi taflu’r ffrwydron yn ystod ffrae rhwng swyddogion diogelwch a’r Taliban.
Cafodd pedwar o blismyn eu lladd a phump o bobol eraill eu hanafu nos Iau wrth i’r Taliban ddechrau’r ymosodiad ar luoedd diogelwch.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb erbyn hyn.