Mae cwmni ceir Volkswagen yn gweithio gydag Amazon i ddatblygu ‘cwmwl cyfrifiadurol’ a fydd yn gwella effeithlonrwydd a chydweithio yn ei holl ffatrïoedd.

Volkswagen yw gwerthwr ceir mwya’r byd, gyda 10.83 miliwn o geir wedi eu gwerthu y llynedd.

Dywed fod cyfuno data o 122 o’i ffatrïoedd yn galluogi iddo wneud yn siwr fod safon y cynllunio a’r cynhyrchu ym mhob un o’u safleoedd yn gyson, a rheoli rhestr stoc, a lleihau costau.

Mae pencadlys cwmni Volkswagen yn Wolfsburg yn yr Almaen, ac yn gweld posibiliadau i ymuno â chwmnïau eraill sydd eisiau bod yn rhan o’r model rhannu gwybodaeth sy’n cael ei ddatblygu gydag Amazon.

Mae ‘cyfrifiadura cwmwl’ yn defnyddio rhwydwaith o weinyddwyr o bell wedi’u cysylltu dros y rhyngrwyd heb orfod gosod hyb yn unlle penodol. Mae’n golygu bod modd i nifer fawr o gyfrifiaduron fod yn rhan o’r rhwydwaith, ac i nifer o bobol gael mynediad i’r system.