Fe fydd pob cerbyd yn Ewrop yn cael dyfeisiau arbennig ynddyn nhw o’r flwyddyn 2022 ymlaen, i sicrhau eu bod yn cadw at y cyflymder cywir ar lonydd.

Mae’r teclyn clyfar (ISA) yn un o lu o fesurau diogelwch a fydd yn dod yn orfodol mewn cerbydau Ewropeaidd.

Yn ôl ymchwil, byddai mesurau newydd yn helpu i arbed mwy na 25,000 o fywydau ac osgoi o leiaf 140,000 o anafiadau difrifol erbyn 2038.

Mae elusen diogelwch ffyrdd, Brake, yn dweud fod hwn yn “ddiwrnod pwysig ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd,” ond yn ôl yr AA, “cyfryngwr cyflymder gorau yw troed dde’r gyrrwr”.

Bydd y system yn cael ei rhoi mewn ceir, faniau, lorïau a bysiau a bydd y rhain yn cynnwys system yn dadansoddi blinder gyrrwr ac yn rhybuddio os oes rhywbeth yn tynnu ei sylw – fel ffôn symudol.

Yn ogystal, bydd dyfeisiau i gadw gyrwyr o fewn llinellau’r lon, system brecio mewn argyfwng, a dyfais i fynd i afael â’r broblem o yfed a gyrru.