Mae’r cwmni tacsis Uber wedi prynu ei gystadleuydd, Careem, am £2.3bn yn y Dwyrain Canol.

Dywed Uber fod y cytundeb yn cynnwys £1.2bn mewn papur cyfnewidiol, a £1bn mewn arian parod.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd Careem yn gweithredu o dan Uber, gan weithio fel cwmni annibynnol o dan ei frand ei hun, a gan ei sylfaenwyr gwreiddiol.

Careem yw un o gwmnïau mwyaf llwyddiannus y Dwyrain Canol. Mae’n boblogaidd yno gan fod opsiwn i dalu mewn arian parod tyn hytrach na cherdyn yn unig.

Yn ol Prif Weithredwr Uber, Dara Khosrowshahi, bydd y pryniant yn ehangu’r cryfder y busnes ar draws y byd.