Mae’r Taliban wedi lladd 26 milwr a saith swyddog o’r heddlu yn Helmand, Afghanistan dros y penwythnos, yn ôl swyddog y wlad.

Er hynny, mae’r weinyddiaeth amddiffyn yn gwrthod datgelu’r nifer swyddogol sydd wedi cael eu hanafu.

Yn ôl pennaeth cyngor taleithiol Helmand, Attaullah Afghan – cafodd 31 o filwyr eu hanafu ar ôl ymosodiad yn nhalaith Sangin ddydd Gwener (Mawrth 22).

Fe ddywedodd y Taliban ddydd Sadwrn mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae gwrthryfelwyr yn ymosod ar luoedd Afghanistan bron bob dydd, gan achosi nifer fawr o farwolaethau ac anafiadau, hyd yn oed wrth iddynt gynnal trafodaethau heddwch gyda’r Unol Daleithiau.