Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dod a’i ymweliad a’r Unol Daleithiau i ben yn gynt na’r disgwyl yn dilyn ymosodiad yn y wlad.

Yn ôl Benjamin Netanyahu, mae’r ymosodiad fore heddiw (Dydd Llun, Mawrth 23), yn “ymosodiad troseddol” ac mae wedi rhoi addewid y byddai’n ymateb.

Dywed heddlu Israel fod y taflegryn wedi cael ei danio o Lain Gaza ac wedi taro cartref yng nghymuned Mishmeret, i’r gogledd o ddinas Kfar Saba, gan ddifrodi’r tŷ.

Mae saith person yn cael triniaeth wedi’r digwyddiad gan gynnwys dwy ddynes, dau o blant, a babi.