Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn ninas Christchurch yn Seland Newydd ar gyfer gwylnos i gofio’r 50 o bobol gafodd eu lladd mewn ymosodiad brawychol ar ddau fosg.

Un o’r rhai oedd yn yr wylnos oedd Mustafa Boztas, 21 oed, a gafodd ei saethu yn y digwyddiad ar Fawrth 15 ym mosg Al Noor.

Yn ôl swyddogion roedd tua 40,000 o bobol wedi dod i’r digwyddiad yn Hagley Park.

Cafodd enwau’r 50 gafodd eu saethu eu darllen yn ystod y digwyddiad.

Mae Seland Newydd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ers yr ymosodiadau er cof am y rhai gafodd eu lladd.

Mae Brenton Tarrant, 28, o Awstralia wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo fynd gerbron llys ar Ebrill 5.