Mae Donald Trump wedi newid ei feddwl tros osod sancsiynau ar Ogledd Corea.

Mae cynrychiolydd ar ran arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud ei fod yn “hoffi” arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, ac nad yw’n credu bod fod angen sancsiynau bellach.

Ond dyw hi ddim yn glir o gwbwl at ba sancsiynau’n union y mae’r datganiad diweddaraf yn cyfeirio, gan nad yw’r neges Twitter sy’n eu crybwyll yn rhoi manylion.

“Rydw i wedi gorchymyn fod y sancsiynau ychwanegol i gael eu tynnu’n ôl!” meddai neges Donald Trump.

Dyw’r Tŷ Gwyn chwaith ddim wedi ymateb yn syth i gwestiynau sy’n gofyn am eglurhad ar y mater.