Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi gohirio ei benderfyniad ar yr ymdrech i leihau nwyon tŷ gwydr.

Fe gytunwyd ym Mrwsel wythnos yma i drafod eu cynlluniau tymor hir yn y cyfarfod nesa ym mis Mehefin, cyn cynnal cyfarfod arall ar y mater yn yr hydref.

Aeth y sylw mwyaf yr wythnos hon ar Brexit.

Roedd rhai gwledydd, gan gynnwys Ffrainc a’r Iseldiroedd, wedi cynnig bod yr arweinwyr yn cytuno ar “strategaeth hirdymor uchelgeisiol erbyn 2020 sy’n ymdrechu creu niwtraliaeth yn yr hinsawdd erbyn 2050.”

Mae hyn yn unol â nod cydsynio hinsawdd Paris yn 2015 sydd a’r targed i leihau cynhesu byd-eang i 1.5 celsiws.

Ond mae’r Almaen a rhai o wledydd yn Nwyrain Ewrop wedi gwrthwynebu 2050 fel targed penodol.