Mae Gokmen Tanis, y dyn sy’n cael ei amau o saethu tri o bobol yn farw ar drên yn yr Iseldiroedd, wedi cyfaddef i’r drosedd, yn ôl erlynwyr y wlad.

Dywed llefarydd ar ran yr erlynwyr, bod y rheswm tu ôl i’r saethu yn parhau i fod yn destun ymchwiliad.

Mae Gokmen Tanis, 37, yn wynebu cyhuddiadau sy’n cynnwys tair llofruddiaeth gyda chymhelliad brawychol.