Mae Llywodraeth Catalwnia wedi ildio i’r awdurdodau trwy dynnu baneri a oedd yn hyrwyddo annibyniaeth oddi ar ei phencadlys yn Barcelona.

Daw’r cam oriau cyn yr oedd disgwyl i’r heddlu ddod i’w tynnu i lawr yn dilyn gorchymyn gan fwrdd etholiadol Sbaen ar drothwy etholiad cyffredinol yn y wlad.

Mae gweithwyr erbyn hyn wedi tynnu baner i lawr o falconi’r adeilad, a oedd yn nodi mewn Catalaneg a Saesneg, “Rhyddhewch carcharorion ac alltudion gwleidyddol”.

Roedd y baner yn cyfeirio at gyflwr presennol nifer o arweinwyr Catalonia a gynhaliodd refferendwm tros annibyniaeth yn 2017.

Mae disgwyl i etholiad cyffredinol Sbaen gael ei gynnal ar Ebrill 28, ac yn sgil hynny does dim hawl gan swyddogion na sefydliadau cyhoeddus fynegi cefnogaeth i un blaid benodol yn ystod cyfnod yr ymgyrchu.

Yn ôl y bwrdd etholiadol, roedd y baneri yn enghreifftiau o “bropoganda gwleidyddol”, ac fe wnaethon nhw eu gorchymyn i’w tynnu nhw i lawr yn gynharach yn y mis.

Ond roedd Quim Torra, arlywydd Catalwnia, wedi gwrthod cydweithredu, gan ddweud fynnu bod y baneri yn fater o ryddid barn.