Mae heddlu’r Iseldiroedd wedi cyhuddo’r dyn sy’n cael ei amau o saethu pobol ar drên yn ninas Utrecht ddydd Llun (Mawrth 18).

Mae Gokmen Tanis yn cael ei gyhuddo o droseddau sy’n cynnwys tair llofruddiaeth neu ddynladdiad gyda phwrpas i achosi braw.

Yn ôl erlynwyr, mae ymchwiliad i’r digwyddiad a laddodd dri o bobol a gadael tri arall wedi’u hanafu’n ddifrifol, yn dangos bod y saethwr wedi gweithredu ar ei ben ei hun.

Mae ymchwiliad yn parhau i weld os yw Gokmen Tanis yn dioddef o broblemau personol ac “ideolegau radicalaidd”.

Mae disgwyl i Gokmen Tanis, 37, ymddangos gerbron barnwr fory (dydd Gwener, Mawrth 22).