Mae arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud y bydd cornel olaf y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria yn cael ei “ryddhau erbyn heno” (nos Iau, Mawrth 21) gyda chymorth lluoedd America.

Wrth wneud ei gyhoeddiad, mae wedi cymharu mapiau o’r tir sydd wedi ei feddiannu gan IS yn Irac a Syria ar y diwrnod cafodd ef ei ethol, gyda mapiau heddiw.

Mae’r map diweddaraf yn dangos beth mae’r arlywydd yn disgrifio fel “dotyn bach iawn” a fydd “wedi mynd erbyn heno,” yn dilyn ymyrraeth byddin yr Unol Daleithiau.

“Roedd Syria yn llanast ac yn llawn ymladdwyr IS pan ges i fy ethol,” meddai.

Mae’r Unol Daleithiau am gadw 400 o filwyr yn Syria am y tro.