Mae prif weindiog Seland Newydd, Jacinda Ardern, wedi cyhoeddi gwaharddiad yn syth bin ar werthu gynnau otomatig “tebyg i rai’r fyddin” fel y rhai gafodd eu defnyddio yn yr ymosodiadau ar ddau fosg yn y wlad yr wythnos ddiwethaf.

Fe gafodd 51 o bobol eu lladd yn y digwyddiadau yn Christchurch ddydd Gwener (Mawrth 15).

“Fe fydd pob arf semi-otomatig a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad brawychol yn cael ei wahardd,” meddai Jacinda Ardern.

Fe ddaw y cyhoeddiad wrth i’r meirw barhau i gael eu claddu. Mae o leia’ chwech angladd yn digwydd heddiw (dydd Iau, Mawrth 21).