Mae’r awdurdodau yn Awstralia yn dweud eu bod nhw’n ceisio symud tua 2,000 o bobol yng ngogledd y wlad wrth i seiclôn pwerus agosáu.

Mae pobol yn cael eu cludo o gymunedau ynysig ger arfordir dwyreiniol talaith y Northern Territory i ddinas Darwin.

Dyma’r maint mwyaf o bobol i gael eu symud o’u cartrefi ers i Seiclôn Tracy daro prif ddinas y dalaith yn 1974, pan fu’n rhaid i 30,000 o bobol adael eu cartrefi.

Mae disgwyl i Seiclôn Trevor, sy’n cynnwys gwyntoedd a all gyrraedd hyd at 160 milltir yr awr, ledu ar draws y dalaith dros y penwythnos.

Bydd y rheiny sydd wedi gorfod ffoi yn cael eu hymgartrefi mewn lletyau dros dro yn Darwin.