Mae o leia 70 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fom ffrwydro mewn lori ym mhrifddinas Somalia.

Yn ôl pennaeth gwasanaeth ambiwlans Somalia, Ali Muse, fe gafodd o leia’ 42 o bobol eraill eu hanafu pan ffrwydrodd lori llawn bomiau o flaen swyddfeydd Gweinidogaeth Addysg y wlad.

Mae swyddogion yr heddlu wedi cadarnhau bod y cerbyd wedi ffrwydro ar ôl stopio wrth y fynedfa archwilio i fynd i mewn i’r swyddfeydd.

Mae grŵp milwriaethus yr al-Shabab, sydd â chysylltiadau ag al Qaida, wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar eu gwefan.

Mae’r ffrwydrad wedi chwalu bron i fis o heddwch ym Mogadishu – a ddechreuodd wedi i al-Shabab dynnu eu dynion allan o’r dre ym mis Awst oherwydd ymgyrch gan luoedd yr Undeb Affricanaidd, ac wrth i ddioddefwyr newyn o’r de ddechrau dyrru i’r ddinas.

Mae al-Shabab yn cynnal ymgyrch milwriaethus yn erbyn llywodareth gwan Somalia, sydd ar hyn o bryd yn derbyn cefnogfaeth y Cenhenloedd Unedig.