Mae llys apêl wedi cynyddu dedfryd Radovan Karadzic i oes o garchar yn dilyn apêl.

40 mlynedd dan glo oedd dedfryd wreiddiol cyn-arweinydd Serbiaid Bosnia am droseddau rhyfel.

Mae’n debygol o olygu y bydd y dyn 73 oed yn treulio gweddill ei oes dan glo.

Dywedodd y barnwr fod y ddedfryd yn rhy hael o ystyried “graddfa a chreulondeb” y troseddau.

Fe wrthododd y llys apêl gan yr erlynwyr yn erbyn dyfarniad ei fod yn ddieuog o rai troseddau eraill.