Mae dros 350 o bobol wedi’u lladd gan y seiclôn yn Affrica, ac mae cannoedd yn rhagor ar goll.

Fe darodd y seiclôn wledydd Mozambique, Zimbabwe a Malawi, gan achosi llifogydd difrifol sydd bellach yn peryglu bywydau miloedd o bobol.

Mae’r ymdrechion i achub pobol yn parhau yn dilyn yr hyn sy’n cael ei alw’n “argyfwng dyngarol gwaethaf Mozambique yn ddiweddar”.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi neilltuo £15m ar gyfer yr ymateb i’r digwyddiad, ac mae’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain hefyd wedi cyfrannu at yr achos.

Daeth cadarnhad fod dros 200 o bobol wedi’u lladd yn Mozambique, ond fe allai gyrraedd hyd at 1,000. Mae o leiaf 400,000 o bobol yn ddigartref erbyn hyn.

Mae’r ymdrechion i sicrhau bod trigolion Mozamabique yn derbyn nwyddau hanfodol yn parhau, ond wedi’u cymhlethu gan lifogydd dros 150 milltir sgwar.

Mae 98 o bobol wedi’u lladd yn Zimbabwe ond mae disgwyl i’r ffigwr godi eto, ac mae rhai cyrff wedi cyrraedd Mozambique erbyn hyn oherwydd y llifogydd.