Mae’r Aifft wedi cyflwyno rheolau llymach sy’n galluogi’r wlad i wahardd gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd â mwy na 5,000 o ddilynwyr, fel rhan o fesurau i  “diogelwch cenedlaethol”.

Dyma’r cam diweddara’ gan yr arlywydd, Abdel-Fattah el-Sissi, i geisio mynd i’r afael ag anufudd-dod.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r Aifft wedi sensro newyddiadurwyr a’r cyfryngau, gan anfon rhai i garchar ac anfon gohebwyr o dramor gartref i’w gwledydd eu hunain.

Mae’r rheolau diweddaraf wedi’u cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â “newyddion ffug”. Mae’r gosb ariannol o dorri’r rheolau yn cynnwys dirwyon o hyd at 250,000 punt yr Aifft (neu £11,000), a hynny heb orfod cael gorchymyn llys.

Mae hefyd yn gwahardd rhestr o bynciau rhag cael eu trafod – yn eu plith, “unrhyw beth sy’n annog torri’r gyfraith, hiliaeth, annoddefgarwch, trais, a gwahaniaethau rhwng dinasyddion neu achosi casineb”.