Mae pennaeth Warner Bros wedi camu o’r neilltu yn dilyn honiadau ei fod wedi addo rhannau i actores o wledydd Prydain y bu’n cynnal perthynas â hi.

Yn ôl John Stankey o WarnerMedia, mae ymadawiad Kevin Tsujihara, sy’n gadeirydd ac yn brif weithredwr ar y stiwdio ffilmiau, “er budd” i’r cwmni.

Y gŵr 54 oed yw’r pennaeth stiwdio cyntaf yn Hollywood i wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn yn rhywiol.

Yn ddiweddarach yn y mis, fe gynhaliodd WarnerMedia ymchwiliad ar ôl i ohebydd adrodd am negeseuon testun rhwng Kevin Tsujihara a Charlotte Kirk sy’n dyddio’n ôl i 2013.

Mae’r negeseuon yn awgrymu bod y ddau mewn perthynas rywiol â’i gilydd, ac maen nhw hefyd yn datgelu addewidion gan y pennaeth stiwdio ynglŷn â datblygu gyrfa’r actores.

Fe ymddangosodd Charlotte Kirk yn How To Be Single yn 2016 a Ocean’s 8 yn 2018 – dwy ffilm sydd wedi eu cynhyrchu gan Warner Bros.

Mae Kevin Tsujihara eisoes wedi ymddiheuro i staff Warner Bros am “gamgymeriadau” ei fywyd personol sydd wedi achosi “gofid a chywilydd” i’w anwyliaid.

Mae Charlotte Kirk, ar y llaw arall, yn gwadu’r honiad bod y pennaeth stiwdio wedi gwneud addewidion iddi.