Mae gwasanaeth angladdol y 157 o bobol a gafodd eu lladd pan blymiodd awyren i’r ddaear yr wythnos ddiwethaf, wedi cael ei gynnal yn Ethiopia.

Roedd gorymdaith trwy’r brifddinas Addis Ababa cyn y gwasanaeth.

Ond dydy’r teuluoedd ddim wedi derbyn cyrff eu hanwyliaid gan yr awdurdodau, gan fod y broses o adnabod y rhai fu farw yn parhau.

Mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai’r broses bara hyd at chwe mis ond bydd trwyddedau marwolaeth yn cael eu hanfon at y teuluoedd ymhen rhai wythnosau.

Cafodd casgedi gwag eu claddu, ar ôl i’r teuluoedd dderbyn sachau pridd.

Mae ymchwiliad i’r ddamwain ar y gweill yn Ffrainc ar ôl i’r awdurdodau dderbyn bocs du’r awyren.