Mae o leiaf 50 o bobol wedi cael eu lladd, a 59 o bobol wedi’u hanafu, yn dilyn llifogydd yn Indonesia.
Mae degau o gartrefi dan ddŵr a mwd, a nifer o ffyrdd a phontydd wedi cael eu dinistrio.
Mae 50 o gyrff wedi’u tynnu o adfeilion, meddai’r awdurdodau.
Mae nifer o’r 59 o bobol yn yr ysbyty wedi torri esgyrn ac wedi cael anafiadau i’r pen.
Mae tri o blant ymhlith y rhai fu farw, ac mae disgwyl i’r nifer godi eto wrth i’r awdurdodau gyrraedd mannau anghysbell.
Mae argyfwng wedi’i gyhoeddi yn nhalaith Papua, gyda mwy na 4,000 o bobol wedi’u symud i lochesi dros dro.