Fe fu’r heddlu a phrotestwyr festiau melyn Ffrainc yn gwrthdaro yn Paris, ar y deunawfed penwythnos o brotestio yn olynol.

Maen nhw’n protestio yn erbyn yr Arlywydd Emmanuel Macron a’i lywodraeth.

Fe fu protestwyr yn taflu bomiau mwg a gwrthrychau eraill at blismyn a’u cerbydau, a bu’n rhaid i’r heddlu geisio eu tawelu gan ddefnyddio canonau.

Cafodd o leiaf un cerbyd ei losgi yn y digwyddiad.

Mae o leiaf 20 o bobol wedi cael eu harestio.

Mae’r brotest yn Paris yn un o ddegau o brotestiadau ar draws y wlad.