Mae dyn 28 oed o Awstralia wedi cael ei gyhuddo o un achos o lofruddiaeth yn dilyn yr ymosodiad brawychol ar ddau fosg yn Christchurch yn Seland Newydd.
Cafodd 49 o bobol eu saethu’n farw mewn ymosodiad a gafodd ei ffrydio’n fyw ar y we, wrth i Brenton Tarrant ddefnyddio’r recordiad i amlinellu ei ddaliadau gwrth-fewnfudo.
Mae disgwyl iddo wynebu rhagor o gyhuddiadau maes o law.
Cafodd tri o bobol eu harestio yn dilyn yr ymosodiad, ac mae pedwerydd person wedi cael mynd yn rhydd yn ddi-gyhuddiad.
Cafodd 41 o bobol eu lladd mewn un mosg, saith o bobol mewn mosg arall, a bu farw un person yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i gyfreithiau dryllau’r wlad gael eu haddasu yn sgil y digwyddiad, ac mae holl fosgiau’r wlad wedi cael cyngor i gau eu drysau dros y penwythnos.